Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau

I archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisïau, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): llywodraeth leol; tai; adfywio, cydlyniant a diogelwch cymunedol; trechu tlodi; cyfle cyfartal a hawliau dynol.

 

Cyfrifoldebau gweinidogol sy'n berthnasol

Cyfrifoldeb

Yr Ysgrifennydd Cabinet neu'r Gweinidog sy'n gyfrifol

Bargeinion Dinesig;

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Goruchwylio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), a’i rhoi ar waith, a chysylltu â Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru;

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Gweithio mewn ffordd strategol er mwyn cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus datganoledig, rheoli perfformiad, trawsnewid gan ddefnyddio datblygiadau digidol a data, materion yn ymwneud â’r gweithlu, cydweithio, archwilio, arolygu, rheoleiddio a chynnwys y cyhoedd;

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Diwygio Awdurdodau Lleol yn strwythurol, yn ddemocrataidd, yn ariannol ac yn gyfansoddiadol, gan gynnwys cydgysylltu modelau cyflawni rhanbarthol a’u cydlynu â Diwygio Llywodraeth Leol;

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Y Cyngor Partneriaeth Llywodraeth Leol;

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Materion cyfansoddiadol Llywodraeth Leol, trefniadau craffu, cabinetau, meiri etholedig, rôl cynghorwyr, eu hamrywiaeth, eu hymddygiad a'u tâl cydnabyddiaeth;

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Trefniadau etholiadol Llywodraeth Leol, noddi Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ac amseriad etholiadau Awdurdodau Lleol;

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Polisi cyllid Llywodraeth Leol a rhoi cyllid sydd heb ei neilltuo at ddibenion penodol i Awdurdodau Lleol a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu drwy gyfrwng setliadau refeniw a setliadau cyfalaf Llywodraeth Leol;

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Llywodraethu ariannol, ariannu a chyfrifyddu mewn perthynas â Llywodraeth Leol;

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Trethi lleol, gan gynnwys y Dreth Gyngor, ardrethi annomestig, lleihau'r dreth gyngor a noddi Asiantaeth y Swyddfa Brisio a'r Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio;

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Materion yn ymwneud â’r gweithlu Llywodraeth Leol (sy'n codi'n bennaf o'r broses ddiwygio) a noddi Comisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus;

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Cydraddoldeb, gan gwmpasu'r nodweddion gwarchodedig dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a hawliau dynol mewn perthynas â Chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig a'r UE.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Cymunedau yn Gyntaf;

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Diwygio Lles;

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Cynhwysiant ariannol, gan gynnwys undebau credyd;

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Adfywio, gan gynnwys Ardaloedd Adfywio Strategol; adfywio etifeddol; a darparu safleoedd ac adeiladau, tir diffaith a chyflawni gwelliannau amgylcheddol mewn perthynas ag adfywio;

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Gweithgareddau’r Awdurdodau Lleol a chymdeithasau tai mewn perthynas â thai, gan gynnwys rheoli tai a dyrannu tai cymdeithasol a fforddiadwy;

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Cyflenwad ac ansawdd y farchnad, tai cymdeithasol a fforddiadwy;

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Digartrefedd a chyngor ar dai

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Materion yn ymwneud â thai a ddarperir gan y sector rhentu preifat, gan gynnwys rheoleiddio landlordiaid cymdeithasol cofrestredig;

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Cymorth ac addasiadau, gan gynnwys Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl a Grantiau Addasu Ffisegol;

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Rhoi cymorth yn ymwneud â thai (ond nid talu'r Budd-dal Tai);

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Rheoleiddio tenantiaethau masnachol sy'n cael eu gosod gan Awdurdodau Lleol;

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Cydgysylltu materion mewn perthynas â Sipsiwn a Theithwyr, ceiswyr lloches, mewnfudo, gweithwyr mudol a chydlyniant cymunedol (ac eithrio pan maent yn ymwneud yn benodol â phortffolios eraill a mesurau gwrthderfysgaeth);

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Polisi Troseddu a Chyfiawnder, gan gynnwys Cyfiawnder Ieuenctid;

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Diogelwch Cymunedol, gan gynnwys y berthynas â Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu, yr Heddlu ac Asiantaethau Cyfiawnder Troseddol eraill, cynlluniau sifil wrth gefn, parodrwydd am argyfwng a materion gwrthderfysgaeth;

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Y Gwasanaethau Tân ac Achub, gan gynnwys gwaith diogelwch rhag tân yn y gymuned;

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Arweiniad ar bolisi mewn perthynas â'r Lluoedd Arfog yng Nghymru a Chyn-filwyr;

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Caethwasiaeth, cam-drin domestig, trais ar sail rhywedd a thrais rhywiol

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Y sector gwirfoddol a gwirfoddoli;

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Y cyfrifoldeb arweiniol am fonitro materion sy'n ymwneud â Swyddfa'r Post a'r Post Brenhinol yng Nghymru.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant